Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sy’n talu ardrethi busnes yng Ngheredigion, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i asesu effaith y newidiadau mewn gwerthoedd ardrethol ar fusnesau Ceredigion.
Dylai’r asesiad hwn gynnwys yr effaith ar swyddi ac ar gau busnesau.
Cynigwyd gan: Busnesau sy’n talu ardrethi busnes yng Ngheredigion
Nifer y llofnodion: 68
Y diweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Siambr Fasnach Arberth.